Cartref > Cyfleusterau a Gwasanaethau
Cyfleusterau a Gwasanaethau
TOILEDAU
Mae toiledau hygyrch ar gael ar lefel 0, 1, 3 a 5 yr adeilad ac mae arwyddion yn dangos lle maent. Mae toiled gyda lle i newid ar gael ar Lefel 1.
CYFLEUSTERAU NEWID CLYTIAU BABIS
Mae cyfleusterau newid clytiau babis ar gael yn y toiledau ar lefel 0 (merched), 1 (merched a dynion) a 5 (dynion).
LIFFT
Mae gennym lifft blaenoriaeth dynodedig sy’n rhoi mynediad i bob llawr yn yr adeilad. Gall y lifftiau gludo rhwng 8 a 21 o bobl ac maent yn ddigon mawr i gadair olwyn neu goets babi.
Mae botymau hwylus ar yr holl lifftiau.
GRISIAU
Mae 6 lefel i'r adeilad gyda 149 o risiau i gyd: Mae canllawiau ar yr holl risiau yn yr adeilad.
Lefel 0 – 1 = Prif risiau x 20 gris, Grisiau Ffynnon x 19 gris
Lefel 1 – 2 = 22 gris
Lefel 2 – 3 = 30 gris
Lefel 3 – 4 = 24 gris
Lefel 4 – 5 = 35 gris
Lefel 5 – 6 = 18 gris
Cyfanswm = Prif risiau x 149 o risiau; Grisiau Ffynnon x 148 o risiau
RAMPIAU A MYNEDFEYDD
Mae sawl ramp parhaol ar hyd a lled yr adeilad, mae ramp allanol hefyd o'r man gollwng i fyny at y brif fynedfa.
Nid oes grisiau o'r maes parcio hygyrch i'r fynedfa ochr.
SWYDDFA DOCYNNAU
Mae gan y swyddfa docynnau gownter îs