Cartref > Darpariaeth i bobl ag amhariad ar y clyw

Darpariaeth i bobl ag amhariad ar y clyw


SINEMA

Ffilmiau gydag isdeitlau – rydym yn dangos nifer o ffilmiau gydag isdeitlau bob wythnos, gweler 'isdeitlau' ar ôl teitl y ffilm wrth archebu i weld ffilm, neu gofynnwch i'r tîm yn y swyddfa docynnau. 

DIGWYDDIADAU BYW

Perfformiadau gyda chapsiynau – Bydd perfformiadau gyda chapsiynau yn cael eu hysbysebu ar-lein ac yn y llyfryn tymhorol. Gall y capsiynau fod yn y Gymraeg neu'r Saesneg

Dehongli Iaith Arwyddion Prydain – Bydd perfformiadau gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain yn cael eu hysbysebu ar-lein ac yn y llyfryn tymhorol. 

CŴN CYMORTH 

Rydym yn croesawu cŵn cymorth.

Siaradwch â'r swyddfa docynnau os oes angen help arnoch i ddewis y seddi gorau gyda lle i’r ci neu unrhyw geisiadau sydd gennych ar eich cyfer chi neu eich ci.

OFFER DIOGELU CLYW

Mae gennym nifer gyfyngedig o offer diogelu clyw y gellir eu benthyca gan ein tîm. Gallwch ofyn am bâr wrth y ddesg groeso, ond rhaid i chi eu dychwelyd ar ddiwedd y sioe fel y gallwn eu glanhau yn barod i gwsmeriaid eraill eu defnyddio.

E-bost

Rydym yn deall nad galwadau ffôn yw'r ffordd fwyaf hygyrch o gyfathrebu ac rydym yn croesawu ymholiadau trwy e-bost info@pontio.co.uk 

I weld rhestr o berfformiadau a ffilmiau hygyrch, cliciwch yma.